Elizabeth MagdaleneEVANS"Betty" (gynt Owen) Yn dawel ar ddydd Sul Awst 31, 2014 yng Nghartref Nyrsio Surrey Hills, Wormley ger Godalming, Surrey, hunodd Elizabeth yn 89 mlwydd oed, gynt o Fferm Cwmbychan, Plwmp a Battersea, Llundain; priod tyner Dai, gynt o Fferm Henbant, Talgarreg a bu farw yn 2010; mam a mam-yng- nghyfraith annwyl Alan a Virginia, mamgu gariadus Olivia a Florence; chwaer hoffus Jennie, Lynn a'r diweddar Sal. Gwasanaeth angladdol cyhoeddus a chladdedigaeth yng Nghapel Pisgah, Talgarreg ddydd Sadwrn Medi 13 am 11.30 o'r gloch. Dim blodau ond derbynnir cyfraniadau er cof os dymunir tuag at elusen Alzheimers, naill drwy dudalen y we justgiving.com/Betty-Evans neu drwy law yr Ymgymerwr Angladdau Maldwyn Lewis, Afallon, Penrhiw-pal, Rhydlewis, Llandysul, Ceredigion, SA44 5QH. Ff?n 01239 851 005.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Elizabeth